Gwyddonwyr i fynd i'r afael â bygythiad clwy tatws – ymchwil newydd

Campws Gogerddan

Campws Gogerddan

29 Mai 2025

Bydd gwyddonwyr yn gweithio ar ffyrdd newydd o fynd i'r afael â chlefyd sy'n achosi colledion sylweddol i gnydau ledled y byd, gan gynnwys clwy tatws, diolch i grant ymchwil newydd.

Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ac Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ymhlith derbynwyr Cronfa’r Gynghrair Ymchwil newydd o fri, a gyhoeddwyd gan lywodraethau Cymru ac Iwerddon. Bydd y fenter gwerth €584,378 yn cefnogi wyth prosiect ymchwil trawsffiniol, gyda Phrifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan allweddol mewn prosiect sy'n mynd i'r afael ag un o fygythiadau mwyaf cyson amaethyddiaeth.

Gan weithio ochr yn ochr â Choleg Prifysgol Cork, bydd ymchwilwyr Aberystwyth yn arwain cynghrair wyddonol newydd i fynd i'r afael â bygythiad Phytophthora infestans, a elwir hefyd yn ‘Dinistrydd Planhigion’. Mae'r clefyd, sydd â goblygiadau mawr i’r economi a diogelwch bwyd, yn gyfrifol am ddinistrio cnydau ledled y byd, gan gynnwys clwy hwyr mewn tatws.

Dywedodd yr Athro John Doonan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion yn IBERS a Chyd-arweinydd y prosiect:

“Mae'r dyfarniad hwn yn cydnabod grym cydweithio rhyngwladol wrth ddatrys heriau amaethyddol byd-eang. Mae Phytophthora infestans yn parhau i fygwth systemau cynhyrchu bwyd ledled Ewrop. Drwy gyfuno ein harbenigedd mewn Deallusrwydd Artiffisial, arbenigedd yr Athro Luis Mur mewn metabolomeg ag ymchwilwyr patholeg planhigion yn Cork, ein nod yw adeiladu'r sylfeini ar gyfer partneriaeth ymchwil hirdymor a all ddatblygu atebion chynaliadwy sy’n lleihau’r angen am reolaeth heintiau gemegol.”

Mae’r partneriaeth Iwerddon-Cymru wedi'i hariannu gan Rwydwaith Arloesi Cymru a Taighde Éireann – Ymchwil Iwerddon, fel rhan o ymdrech strategol i ddyfnhau cydweithio academaidd a gwella mynediad at Horizon Ewrop, rhaglen ariannu flaenllaw'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer ymchwil ac arloesi.

Wrth gyhoeddi’r dyfarniadau, dywedodd Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth Iwerddon, James Lawless TD:

“Mae Dyraniad y Gynghrair Ymchwil yn tynnu sylw at y cysylltiadau cryf rhwng Iwerddon a Chymru a photensial aruthrol ein cymunedau academaidd yn cydweithio. Trwy fuddsoddi yn y prosiectau arloesol hyn, rydym yn paratoi'r ffordd ar gyfer darganfyddiadau a datrysiadau arloesol a fydd o fudd i'n gwledydd a'r gymuned Ewropeaidd ehangach. Edrychwn ymlaen at weld sut mae'r trefniadau cydweithredol hyn yn datblygu'n fentrau ar raddfa fwy sy'n cyflawni effaith yn y byd go iawn.” 

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans MS:

“Rydym am greu dyfodol deinamig i ni ein hunain, gan hyrwyddo arloesedd a thechnolegau newydd i gefnogi Cymru fwy gwyrdd, gyda gwell iechyd, gwell swyddi a ffyniant i bawb. Mae cyllido yn sgil Dyraniad y Gynghrair Ymchwil yn gyfle gwych i sefydliadau academaidd yng Nghymru ac Iwerddon greu partneriaethau newydd mewn ymgais i fynd i'r afael â heriau cymhleth gyda chefnogaeth y llywodraeth – yn unol ag uchelgeisiau’r Datganiad a Rennir a’r Cynllun Gweithredu ar y Cyd 2021 i 2025 rhwng Iwerddon a Chymru. Edrychaf ymlaen at weld y fenter hon yn adeiladu ymhellach ar enw da Cymru fel magnet ar gyfer cydweithio a rhagoriaeth mewn arloesedd.”

Bydd y cyllid sbarduno yn cefnogi gweithgareddau prosiect am hyd at 12 mis, gan gynnwys cyfnewidiadau ymchwilwyr, gweithdai ar y cyd, a gwaith paratoi ar gyfer ceisiadau am gyllid Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae prosiectau eraill a ariennir o dan y cynllun yn cwmpasu meysydd fel clefydau niwroddirywiol, deallusrwydd artiffisial ar gyfer canfod ffitiau, glanhau dŵr croyw, a batris y genhedlaeth nesaf.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o bedwar sefydliad yng Nghymru sy'n cymryd rhan yn y rhaglen, ochr yn ochr â phrifysgolion Caerdydd, Abertawe, a Bangor. Y prifysgolion partner yn Iwerddon yw Coleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Limerick, Coleg Prifysgol Cork, a Phrifysgol Dinas Dulyn.