Newyddion

Keir Starmer yn dweud y dylai mewnfudwyr ddysgu Saesneg er mwyn integreiddio. A yw’n bod yn deg?
Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Huw Lewis o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'i gyd-awduron yn trafod moeseg integreiddio ieithyddol, a sut y gall tegwch olygu bod rhwymedigaeth ar lywodraeth neu gymdeithas, yn ogystal ag ar fewnfudwyr.
Darllen erthygl
Penodi academydd o Brifysgol Aberystwyth i rôl allweddol yn y sector gofal iechyd
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi’i benodi’n llysgennad ac eiriolwr dros ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru mewn asiantaeth fawr a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Darllen erthygl
Wynebau ceffylau yn adrodd cyfrolau - astudiaeth newydd yn mapio’u hiaith wyneb gyfoethog
Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod gan geffylau "iaith" wyneb llawer mwy soffistigedig a llawn mynegiant na’r hyn a ystyriwyd yn flaenorol.
Darllen erthygl
Cynhadledd heddwch yn trafod ‘byd di-ryfel’
Mae’r Prif Weinidog wedi agor cynhadledd heddwch arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth a drefnwyd i drafod sut gall Cymru gyfrannu tuag at fyd di-ryfel.
Darllen erthygl
Academydd i gadeirio is-banel nodedig sy'n edrych ar ragoriaeth academaidd y DU
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi'i benodi i gadeirio is-banel arbenigol a fydd yn asesu rhagoriaeth ymchwil y sector addysg uwch yn y DU.
Darllen erthygl
Cydnabyddiaeth newydd am waith gwrth-hiliol y Brifysgol
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llwyddo i gyrraedd safon Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil, a ddyfernir gan AU Ymlaen, am ei gwaith yn gwella cynrychiolaeth a chynhwysiant i bobl o leiafrifoedd ethnig.c
Darllen erthygl
Gwyddonwyr i fynd i'r afael â bygythiad clwy tatws – ymchwil newydd
Bydd gwyddonwyr yn gweithio ar ffyrdd newydd o fynd i'r afael â chlefyd sy'n achosi colledion sylweddol i gnydau ledled y byd, gan gynnwys clwy tatws, diolch i grant ymchwil newydd.
Darllen erthygl
Ffug ddigwyddiad o bwys i hyfforddi nyrsys
Cynhelir efelychiad o ddigwyddiad o bwys yng Nghanolfan Addysg Iechyd Prifysgol Aberystwyth fis nesaf er mwyn cynorthwyo hyfforddi ei myfyrwyr nyrsio.
Darllen erthygl
Ditectifs morol yn taflu goleuni ar fywydau cyfrinachol dolffiniaid Bae Ceredigion
Caiff rhai o ddirgelion bywydau tanddwr dolffiniaid trwynbwl Bae Ceredigion eu datgelu fel rhan o brosiect ymchwil arloesol.
Darllen erthygl
Gallai robotiaid helpu i fonitro dirywiad bioamrywiaeth – astudiaeth newydd
Gallai robotiaid helpu i olrhain dirywiad bioamrywiaeth ar draws eangdiroedd y byd, yn ôl astudiaeth newydd.
Darllen erthygl
Labordy’r Traeth yn dychwelyd i lan y môr Aberystwyth gyda robotiaid a hwyl gyfrifiadurol
Mae digwyddiad poblogaidd Labordy’r Traeth Prifysgol Aberystwyth yn dychwelyd ddiwedd y mis, gan ddod â roboteg hynod a'r dechnoleg ddiweddaraf i lan y môr.
Darllen erthygl
Angen trawsnewidiad economaidd i ymdrin ag argyfyngau byd-eang
Mae angen chwyldroi’r systemau economaidd confensiynol i ymdrin â'r heriau enbyd sy'n wynebu'r byd sydd ohoni, yn ôl astudiaeth fyd-eang newydd.
Darllen erthygl
Clefyd newydd yn bygwth coed derw - chwilio am wirfoddolwyr
Mae perchnogion a rheolwyr coetiroedd yn cael eu gwahodd i helpu i fonitro iechyd y rhywogaeth fwyaf eiconig o goed ym Mhrydain.
Darllen erthygl
Amser tyfu mwy o de cartref?
Gallai rhesi o blanhigion te ddod yn olygfa fwy cyfarwydd ar fryniau Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol yn y dyfodol.
Darllen erthygl